Am Cass
Mae Cass Meurig yn gantores gwerin Cristnogol ac yn chwarae’r ffidil a’r crwth. Mae hi’n byw yn y Bala, Gwynedd.
Mae hi wedi perfformio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol fel unawdydd ac mewn bandiau gwerin ac mae’n adnabyddus fel un o brif chwaraewyr y ffidil werin a’r crwth, offeryn traddodiadol Cymreig. Fel unawdydd bu’n perfformio yng nghyngerdd agoriadol WOMEX yng Nghaerdydd ym 2013, Telemark Festival (Norwy), Festival Interceltique de Lorient (Llydaw) a Saint Chartier (Ffrainc) a Viljandi Folk Festival (Estonia).
Bu Cass yn aelod o’r band Fernhill rhwng 2000 a 2004 ac yn chwarae eu halbymau ‘Whilia’ a ‘Hynt’ . Bu hefyd yn chwarae a recordio gyda’r band gwerin Pigyn Clust (‘Perllan’ ac ‘Enaid’). Ym 2004 rhyddhaodd eu halbwm unawd cyntaf ‘Crwth’ ar label enwog Fflach:tradd. Fel casgliad cyntaf y byd o gerddoriaeth ar gyfer y crwth Cymreig, denodd yr albwm sylw yn y wasg Gymraeg ac ar raglen Late Junction ar Radio 3. Meddai cylchgrawn Songlines ‘it feeds the head inspirationally’. Ar ôl cyfres lwyddiannus o gigiau unawd gwnaeth Cass ddwy albwm ‘Deuawd’ ac ‘Oes i Oes’ gyda’r gitarydd Nial Cain, a’r ddau yn ennill cymeradwyaeth. Ymhlith artistiaid eraill mae Cass hefyd wedi perfformio a recordio gyda Cerys Matthews, Gwyneth Glyn a Fiona a Gorwel Owen.
Ym 2012 rhoddodd Cass y gorau i’w gyrfa mewn cerddoriaeth seciwlar a threuliodd tair blynedd yn hyfforddi ar gyfer gweinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Yn ystod yr amser yna dechreuodd ysgrifennu caneuon yn cyfuno alawon traddodiadol gyda geiriau newydd yn adlewyrchu’r ffydd Gristnogol a’i siwrne personol. Ym 2018 rhyddaodd ‘Taith’, album yn cynnwys y caneuon hyn, a bu’n eu perfformio ar Dechrau Canu Dechrau Canmol a thrwy Gymru.
Yn ystod cyfnodau clo Covid recordiodd Cass gasgliad o osodiadau litwrgi ar alawon gwerin Cymreig ar ei sianel youtube. Buodd rhain yn boblogaidd iawn ar gyfer gwasanaethau ar-lein ac maent bellach yn ffefrynnau gyda chynulleidfaodd ledled Cymru.
Cafodd ei halbwm diweddaraf, ‘Rwy’n Credu’ ei rhyddhau ar y Pasg 2023. Casgliad newydd o ganeuon y ffydd Gristnogol yw ‘Rwy’n Credu’, yn cyfuno ysgrythur, caneuon gwerin a myfyrdodau ar fywyd. Cerddoriaeth i’r enaid.