Taith

Taith

Casgliad o ganeuon ysbrydol gan Cass Meurig ydyw ‘Taith’, yn deillio o’i thaith ffydd bersonol.

Ar ôl gyrfa llwyddiannus yn chwarae crwth a ffidil fel unawdydd a mewn bandiau gwerin drwy Gymru a thu hwnt, rhoddodd Cass y gorau i’r gigio a recordio er mwyn dilyn galwad i weinidogaeth yn yr Eglwys. Yn ystod y cyfnod hwn o newid bu’n ysgrifennu caneuon Cymraeg yn sôn am ei phrofiad a’i ffydd, gan eu gosod ar alawon traddodiadol. Maent yn fyfyrdod ar siwrne bywyd a’r ffydd Gristnogol, gan gymryd ysbrydoliaeth o’r Beibl a’r caneuon gwerin.

Wedi derbyn grant gan Gŵyl Coda, penderfynodd Cass recordio’r caneuon fel casgliad a rhyddhau’r CD yn yr ŵyl honno fis Gorffennaf 2018. Aeth ati gyda’r gantores a’r gitarydd Elise Gwilym, gan ddefnyddio Stiwdio Thompsound yn y Bala lle mae’n byw. Peiriannwyd a chynhyrchwyd yr albwm gan y ffidlwr adnabyddus Billy Thompson. Yn ogystal â’r ddau lais, ffidil a gitâr, mae Cass hefyd yn chwarae crwth a piano ar rhai o’r traciau, gyda bass dwbl gan Owen Lloyd Evans yn dyfnhau’r sŵn.

Casgliad i’r enaid yw Taith. Mae’r caneuon yn amrywio o’r myfyriol i’r bywiog, o’r lleddf i’r llon. Gyda geiriau dwys, alawon traddodiadol swynol a chyfeiliant sensitif, maent yn cyffwrdd calon. Dyma dri cherddor heb ddim i’w brofi, yn addoli Duw yn Gymraeg drwy gyfrwng eu celfyddyd.

Mae CDs ar gael ar y dudalen Siop.