Am Cass

Am Cass

Mae Cass Meurig yn gerddor Cristnogol sydd yn byw yn y Bala. Mae hi’n cyfansoddi a pherfformio ei chaneuon ysgrythurol, emynau cynulleidfaol a gosodiadau o’r litwrgi i alawon gwerin Cymreig.

Mae Cass yn adnabyddus fel cerddor yng Nghymru, gan iddi gael gyrfa lwyddiannus ym myd cerddoriaeth draddodiadol cyn iddi fynd i’r weinidogaeth. Mae hi’n un o brif chwaraewyr y ffidil a’r crwth, offeryn canoloesol Cymreig, yn gantores ac yn storïwraig. Ar ôl iddi berfformio a recordio gyda’r bandiau gwerin Fernhill a Pigyn Clust, rhyddhaodd albwm unawd ‘Crwth’ yn 2004, a dau albwm ‘Deuawd’ ac ‘Oes i Oes’ gyda’r gitarydd Nial Cain. Mae hi wedi chwarae ar lwyfannau rhyngwladol a thrwy Gymru.

Yn 2012 rhoddodd Cass y gorau i’w gyrfa mewn cerddoriaeth seciwlar er mwyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. Dechreuodd ysgrifennu caneuon yn cyfuno alawon traddodiadol gyda geiriau newydd yn adlewyrchu’r ffydd Gristnogol a siwrne bywyd. Yn 2018 rhyddaodd ‘Taith’, album o’i chaneuon, ac yn 2023 casgliad arall o’r enw ‘Rwy’n Credu.’ Mae bellach wedi ei hordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru.

Yn ystod cyfnodau clo Covid recordiodd Cass gasgliad o osodiadau o emynau a litwrgi ar alawon gwerin Cymreig. Rhyddhaodd nhw ar ei sianel youtube ar gyfer gwasanaethau ar-lein ac maent bellach yn ffefrynnau gyda chynulleidfaodd ledled Cymru

Youtube Channel