![]() |
Mae Cass yn un o brif unawdwyr Cymru ar y ffidil traddodiadol a'r crwth. Yn ogystal â gweithio fel unawdydd, mae'n chwarae mewn deuawd gyda'r gitarydd Nial Cain ac hefyd gyda'r band Pigyn Clust. Bu'n chwarae gyda Fernhill rhwng 2000 a 2004 ac mae hefyd yn chwarae gyda Gorwel a Fiona Owen. |
Rhyddhawyd 'crwth', albwm gyntaf Cass Meurig o gerddoriaeth ar gyfer y crwth, ym 2004 ar label Fflach:tradd. Ym 2009 rhyddhawd albymcyntaf Cass Meurig a Nial Cain, 'DEUAWD', hefyd ar Fflach:tradd. Mae'n cyfuno alawon a chaneuon o gyfoeth y traddodiad Cymraeg gyda chyfansoddiadau newydd; hen ganeuon ochr yn ochr â thiwniau dawns sionc ac alawon araf. Clywir trac gan Cass a Nial hefyd ar 'Blodeugerdd', albwm newydd swynol o gerddoriaeth Gymraeg gafodd ei ryddhau gan Smithsonian Folkways ac a enillodd gwobr yr Albwm Traddodiadol Gorau yn yr Independent Music Awards 2009.
*NEWYDDION* Mae DEUAWD wedi cael adolygiadau gwych yn y wasg werin: 'Unusual and beautiful... a delight' SONGLINES; 'contemplative but quietly daring to be different. A huge thumbs up' FROOTS; 'There is magic throughout this exceptional album' ROCK'N'REEL.
Mae Clwb Ffidil yr Wyddfa yn croesawu chwaraewyr newydd o bob safon ac oedran. Nosweithiau Mawrth yn ystod tymor yr ysgol, 5.30-6 pm (dechreuwyr) 6pm-6.30 (canolig) a 6.30-7.30 (profiadol) yn Caban, Brynrefail, £5. Gwersi gan Cass Meurig a Nial Cain, dim rhaid i chi fedru darllen cerddoriaeth. Mae croeso i offerynnau eraill yn y dosbarth profiadol. Ebostiwch Cass am fwy o fanylion.
Mae 'Alawon John Thomas', golygiad Cass o lawysgrif John Thomas o alawon ffidil (1752) ar gael o safle we Llyfrgell Genedlaethol Cymru www.llgc.org.uk. Mae'n cynnwys tua 450 o alawon wedi eu casglu yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru yn hanner cynta'r ddeunawfed ganrif a thestun sylweddol allan o ddoethuriaeth Cass ar gyd-destun hanesyddol a cherddorol y llawysgrif a hanes yr alawon.



Mynegai